Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-25-13 papur 2

Sesiwn Graffu Ariannol – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Y Gyfundrefn Ariannol ar gyfer GIG Cymru

 

1.   Mae trefniadau broceriaeth byrdymor yn parhau i fod ar gael a chânt eu hwyluso gan Lywodraeth Cymru er mwyn chwistrellu elfen o hyblygrwydd ariannol i mewn i'r system a galluogi Byrddau Iechyd i fodloni gofynion ariannu byrdymor e.e. ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2012-13, defnyddiodd dau Fwrdd Iechyd arian broceriaeth o wargedau a gynhyrchwyd gan Fyrddau Iechyd eraill. Cafodd y broses hon ei goruchwylio a'i hwyluso gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi na chafodd unrhyw arian ychwanegol ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn. Yn hytrach, sefydliadau'r GIG gytunodd ar yr arian. Rhagwelir y bydd y math hwn o hyblygrwydd ar gael unwaith eto yn 2013-14 pe bai'r angen yn codi.

2.   Gan gydnabod mai ateb byrdymor yn unig yw hwn a bod cyfyngiadau'n cael eu gosod gan ddeddfwriaeth sylfaenol gyfredol, cyhoeddais ar 10 Mehefin 2013 y caiff Bil newydd a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i sefydliadau'r GIG reoli eu cyllidebau ei gyflwyno yn ystod tymor nesaf y Cynulliad fel rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Roedd y datganiad yn cadarnhau'r canlynol:

 

3.   Bydd y Bil Hyblygrwydd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol (Cymru) yn cynnig y bydd angen i'r Byrddau Iechyd reoli eu hadnoddau o fewn eu Cynllun Tymor Canolig Integredig cytbwys a gymeradwywyd ac o fewn terfynau cymeradwy a bennir gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd.

 

4.   Bydd y newid hwn i'r gyfundrefn ariannol yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Fyrddau Iechyd Lleol ac yn sicrhau bod eu hadnoddau ariannol yn gydnaws â phroffil eu Cynlluniau.  Caiff yr hyblygrwydd ariannol hwn ei gydbwyso â disgyblaeth ariannol a bydd angen iddo gael ei reoli yn unol â'r hyblygrwydd a ganiateir o ran yr adnoddau sydd ar gael i'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

5.   Yn benodol, bydd y Bil arfaethedig o fudd ar adegau pan gaiff gwasanaethau eu trawsnewid a dylai arwain at well gwasanaeth, gweithlu a chynllunio ariannol drwy sicrhau bod y gofynion o ran adnoddau yn gydnaws â’r newid i’r gwasanaeth ac amserlenni trosglwyddo gwasanaethau.

 

6.   Mae’r newidiadau arfaethedig cyfredol i wasanaethau yn enghraifft o sefyllfa lle na fydd yn bosibl amseru gwariant ac adnoddau er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â phroffil gweithredu cynllun newid gwasanaeth o fewn blwyddyn ariannol. Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd newid y ddyletswydd ariannol statudol flynyddol i, dyweder, ddyletswydd ariannol statudol tair blynedd yn galluogi BILlau i ffocysu eu penderfyniadau cynllunio gwasanaethau, penderfyniadau’n ymwneud â’r gweithlu a phenderfyniadau ariannol drso gyfnod hwy a disgwylir iddo wella prosesau gwneud penderfyniadau.

 

7.   Un o’r manteision eraill a fyddai’n cael ei weld yn sgil diwygio’r cyfyngiad statudol bob blwyddyn fyddai’r posibilrwydd o osgoi canlyniad awtomatig amod archwilio pe bai gwariant BILl yn fwy na’i Derfyn Adnoddau.

 

8.   Bydd y Bil yn cefnogi’r gofyniad ar BILlau i ddatblygu, cymeradwyo a chyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig cytbwys tair blynedd arfaethedig. Mae darparu Hyblygrwydd Ariannol er mwyn sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu halinio ag amseru’r gwasanaeth ac elfennau o’r Cynllun Tymor Canolig Integredig sy’n ymwneud â’r gweithlu yn elfen hanfodol o’r nod polisi hwn. Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol, sy’n nodi dyletswydd ariannol flynyddol, yn cyfyngu ar y nod polisi hwn.

 

9.   Felly, nod y Bil yw newid dyletswyddau ariannol cyfredol BILlau o dan adrannau 175 a 176 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, o ofyniad statudol blynyddol sy’n nodi na ddylid gwario mwy na’r terfyn adnoddau i system sy’n ystyried y ddyletswydd ariannol i reoli adnoddau o fewn terfynau cymeradwy dros gyfnod o dair blynedd. Byddai’r newid hwn yn cael ei ategu gan newidiadau i Orchmynion Sefydlog/Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol BILlau ac unrhyw ganllawiau a chyfarwyddiadau a roddir gan Lywodraeth Cymru.

 

10.                Bwriedir i’r Bil gael ei gyflwyno a’i gefnogi drwy’r broses ddeddfwriaethol yn y Cynulliad mewn da bryd fel bod ei ddarpariaethau yn dod i rym ar ddechrau blwyddyn ariannol 2014/15.

 

11.                Ymhlith y gwaith arall sy'n gysylltiedig â Chyfundrefn Ariannol Newydd y GIG mae:

Ni fydd y dull gweithredu traddodiadol lle mae Byrddau Iechyd wedi paratoi cynlluniau ar gyfer gwasanaethau gweithredol, cynllunio’r gweithlu a phennu cyllidebau fel meysydd ar wahân yn ddigonol nac yn briodol i fynd i’r afael â heriau yn y dyfodol.

Bydd cynlluniau integredig yn canolbwyntio ar ymagwedd system gyfan a bydd angen iddynt gael eu datblygu ar bob lefel o fewn sefydliadau. Bydd angen iddynt ddangos y gydberthynas a’r rhyngddibyniaeth ar draws pob maes gweithgarwch a bydd angen iddynt gynnwys Ansawdd, dulliau atal ac ymyriadau cynnar, gweithgarwch a chanlyniadau, y gweithlu a chyllid.

 

Bu’r broses o ddatblygu gwybodaeth ariannol yn ymwneud yn bennaf â ffurflenni costau a ffurflenni cyllidebu rhaglenni, ac fe’i harweiniwyd ar lefel genedlaethol. Er y gwelwyd cynnydd da, y cam nesaf yw sicrhau bod y broses o ddatblygu gwybodaeth ariannol yn canolbwyntio ar y defnyddiwr terfynol, y clinigwr, er mwyn cynhyrchu gwybodaeth sy’n glinigol berthnasol ac sy’n dwyn ynghyd wybodaeth ariannol a gwybodaeth anariannol.

Yn ogystal, bydd hyn hefyd yn ategu’r ymrwymiad a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd i wella’r modd y caiff gwasanaethau gofal eu darparu ac atebolrwydd drwy gyhoeddi data mewn modd tryloyw a defnyddio gwasanaethau gwybodaeth fusnes modern.

 

Ers y broses ad-drefnu yn 2009, a arweiniodd at greu’r saith Bwrdd Iechyd Lleol, ni fu unrhyw adolygiadau na newidiadau i’r dyraniad adnoddau. Er mai cyfrifoldeb Byrddau Iechyd Lleol yw rheoli eu hadnoddau o fewn y terfyn adnoddau a bennwyd, mae’n bwysig sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg i’r Byrddau er mwyn diwallu anghenion eu priod boblogaethau.

 

Gan fod tair blynedd wedi mynd heibio ers sefydlu Byrddau Iechyd Lleol, mae’n amser priodol i asesu’r trefniadau sicrwydd a llywodraeth presennol. Er eu bod yn gyrff corfforaethol statudol a sefydlwyd o fewn fframwaith Deddf y GIG (Cymru) 2006 gyda threfniadau atebolrwydd i Lywodraeth Cymru, mae’n hanfodol bod y trefniadau yn addas ac yn effeithiol i sefydliadau integredig cymhleth o’r fath.

 

O ystyried yr heriau sylweddol sy’n wynebu’r gwasanaeth, mae angen gwella’r cymorth cyllidol a roddir i sefydliadau’r GIG yn barhaus. Mae gan y Swyddogaeth Gyllid a Staff Cyllid rôl allweddol i’w chwarae o ran helpu GIG Cymru i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Nod rhaglen datblygu Swyddogaeth Gyllid a Staff Cyllid yw gweithio gyda’r grŵp Datblygu Staff Cyllid (FSD), sy’n dwyn ynghyd arweinwyr  FSD o bob corff iechyd yng Nghymru gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, ac adeiladu ar waith y grŵp.

 

Bydd datblygiadau a newidiadau yn y meysydd hyn yn cael eu gweithredu fesul cam dros y 12 i 24 mis nesaf.

 

Proses Llywodraeth Cymru ar gyfer Goruchwylio Arian BILlau

 

Pennu cynlluniau a chyllidebau ariannol a chytuno arnynt;

 

12.                Mae gan bob Bwrdd Iechyd ddyletswydd o dan eu gorchmynion sefydlog a'u cyfarwyddiadau ariannol sefydlog i baratoi cynllun Gwasanaeth ac Ariannol, a gymeradwyir gan ei Fwrdd cyn dechrau'r flwyddyn ariannol. Mae'n ofynnol i'r cynlluniau gael eu paratoi o fewn yr adnoddau a neilltuir i bob sefydliad ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r cynnig cyllideb terfynol ym mis Rhagfyr.

 

13.                Er mwyn helpu'r broses hon a sicrhau bod elfen o gysondeb, mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau a thempledi ar gyfer casglu data allweddol.  Cyflwynwyd drafftiau cyntaf y cynlluniau a baratowyd gan sefydliadau'r GIG ar gyfer 2013-14 i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2012. Yn dilyn craffu manwl a thrafodaethau â sefydliadau'r GIG, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar ddechrau mis Ebrill 2013.

 

14.                Cynhaliwyd cylch arall o herio a chraffu rhwng Swyddogion Cyllid Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwyr Cyllid pob Bwrdd Iechyd.

 

Pennu a monitro perfformiad yn erbyn cynlluniau arbed arian:

 

15.                Mae'n ofynnol i'r cynlluniau a gyflwynir gynnwys manylion y camau gweithredu a ddatblygwyd gan sefydliadau'r GIG i gyflawni cydbwysedd ariannol. Yn hanesyddol, mae gwybodaeth wedi'i chasglu o dan benawdau safonol:

 

·         Gweithlu

·         Caffael

·         Rheoli Meddyginiaethau

·         Gofal Iechyd Parhaus

·         Gwasanaethau a Gomisiynir yn Allanol

·         Costau Rheoli

·         Ystadau / Ynni

 

16.                Caiff perfformiad yn erbyn y cynlluniau ei fonitro'n fisol a'i drafod yng nghyfarfodydd misol y Cyfarwyddwyr Cyllid.  Bob mis, mae'n ofynnol i sefydliadau'r GIG roi esboniadau manwl o unrhyw amrywiant o'r cynlluniau a'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i unioni hynny. 

 

17.                Dangosir perfformiad yn erbyn y cynlluniau yn 2012-13 ym mharagraff 18.

 

Cysylltu cynlluniau gwario â chanlyniadau a strategaethau ehangach, a mesur gwerth am arian.

 

18.                Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i fesur yr effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl, gan gynnwys iechyd yng Nghymru. Datblygwyd dwy ddogfen strategol i ategu'r ymrwymiad hwn, 'Law yn Llaw at Iechyd' a 'Rhagori, y Cynllun Sicrhau Ansawdd'. Mae'r dogfennau hyn yn pennu'r fframwaith strategol ar gyfer darparu ein gwasanaethau iechyd ac mae Safonau Canlyniadau yn allweddol i sbarduno a darparu'r ffocws manwl.

 

19.                Mae'r Fframwaith Cyflawni newydd ar gyfer 2013/14 wedi’i baratoi yn erbyn y cefndir hwn er mwyn gwella safonau a chanlyniadau. Mae'n nodi'r prosesau sydd ar waith i fonitro cynnydd, rhoi cymorth a darparu ymyriadau lle y bo angen.

 

20.                Nodwyd pum 'parth' ansawdd a fydd yn helpu i roi darlun mwy integredig o'r hyn a gyflawnir gan y GIG, sef:

 

·         Angen ac Atal

·         Profiad a Mynediad

·         Ansawdd a Diogelwch

·         Integreiddio a Phartneriaethau

·         Dyrannu a Defnyddio Adnoddau.

 

Sefyllfa Refeniw Byrddau Iechyd ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2012-13

 

Y sefyllfa refeniw ar ddiwedd y flwyddyn 2012-13;

 

21.                Ar ddiwedd 2012-13, roedd gan GIG Cymru gyfanswm gwarged o £434k (Byrddau Iechyd Lleol £325k ac Ymddiriedolaethau'r GIG £109k). Dangosir y manylion fesul sefydliad yn y tabl isod:

22.                 

Sefydliad

- Tanwariant / Gorwariant yn ôl y Cyfrifon Terfynol

£000oedd

Abertawe Bro Morgannwg

-141

Aneurin Bevan

-34

Betsi Cadwaladr

-5

Caerdydd a’r Fro

-66

Cwm Taf

-17

Hywel Dda

-56

Powys

-6

Cyfanswm Byrddau Iechyd Lleol

-325

Iechyd Cyhoeddus Cymru

-50

Felindre

-10

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

-49

Cyfanswm Ymddiriedolaethau’r GIG

-109

 

Cyfanswm GIG Cymru

-434

Manylion unrhyw refeniw ychwanegol a ddarparwyd ers yr ail gyllideb atodol 2012-13;

 

23.                Ar ôl iddi ddyrannu £82m ychwanegol i sefydliadau'r GIG ym mis Rhagfyr 2012, ni ddyrannodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol yn ystod 2012-13 er mwyn helpu sefydliadau i gyrraedd eu targedau ariannol. Fodd bynnag, aeth ati i hwyluso arian broceriaeth rhwng sefydliadau'r GIG.

 

Arian broceriaeth a ddarparwyd/derbyniwyd;

 

24.                Derbyniodd BILl Hywel Dda £2.3m a BILl Powys £4.210m o arian broceriaeth ar ddiwedd 2012-13. Darparwyd yr arian hwn gan sefydliadau eraill y GIG. Ceir rhagor o fanylion yn y tabl isod:

 

Arian Broceriaeth a Dderbyniwyd gan Sefydliadau’r GIG

£m

Abertawe Bro Morgannwg

2.5

Aneurin Bevan

2.3

Cwm Taf

0.4

Felindre

0.9

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

0.1

Is-gyfanswm

6.2

Gwargedau GIG Cymru

0.4

Cyfanswm Arian Broceriaeth oedd ar Gael

6.5

 

 

Arian Broceriaeth a Ddarparwyd gan Sefydliadau’r GIG

£m

Hywel Dda

-2.3

Powys

-4.2

Is-gyfanswm

-6.5

Balans

0.0

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Perfformiad yn erbyn yr arbedion a gynlluniwyd yn 2012-13

 

25.                Cyflawnodd sefydliadau'r GIG arbedion o £187.7m yn 2012-13 (Byrddau Iechyd Lleol £176.4m ac Ymddiriedolaethau'r GIG £11.3m).

 

 

Sefydliad

Cynllun Blynyddol

 

Arbedion Blynyddol

Amrywiant o’r Cynllun Blynyddol

£000oedd

£000oedd

£000oedd

%

Abertawe Bro Morgannwg

24,400

21,431

-2,969

-12.2%

Aneurin Bevan

48,000

33,100

-14,900

-31.0%

Betsi Cadwaladr

51,793

49,112

-2,681

-5.2%

Caerdydd a’r Fro

66,886

35,651

-31,235

-46.7%

Cwm Taf

24,100

7,671

-16,429

-68.2%

Hywel Dda

27,592

19,807

-7,786

-28.2%

Powys

14,852

9,610

-5,242

-35.3%

Cyfanswm Byrddau Iechyd Lleol

257,623

176,382

-81,241

-31.5%

Iechyd Cyhoeddus Cymru

2,317

2,317

0

0.0%

Felindre

3,112

3,112

0

0.0%

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

7,970

5,850

-2,120

-26.6%

Cyfanswm Ymddiriedolaethau’r GIG

13,398

11,278

-2,210

-15.8%

 

GIG Cymru

271,022

187,661

-83,361

-30.8%

 

 

Cyfran yr arbedion a gyflawnwyd yn 2012-13 nad ydynt yn rhai rheolaidd.

 

26.                O'r £187.7m a arbedwyd, roedd 83.8% yn arbedion rheolaidd.

 

SEFYLLFA GIG CYMRU O RAN DYLED

 

27.                Yn unol â'u Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog, mae'n ofynnol i BILlau fonitro eu perfformiad ariannol yn erbyn eu cyllideb a'u cynlluniau a chyflwyno adroddiad ar y sefyllfa gyfredol a'r sefyllfa a ragwelir ym mhob cyfarfod o'r Bwrdd. Fel rhan o bapurau Bwrdd y BILl, mae adroddiadau ariannol ar gael i'r cyhoedd.

 

28.                Bwrdd pob BILl sy'n penderfynu ym mha ffurf y cyflwynir adroddiadau ariannol i'r Bwrdd hwnnw. Nodir gofynion sylfaenol o ran cynnwys yn y Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog gan gynnwys incwm a gwariant hyd yn hyn sy'n dangos tueddiadau a rhagolwg o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, symudiadau mewn cyfalaf gweithio ac ati. Nid oes rhaid cyflwyno adroddiad ar werth a chyfansoddiad dyledwyr; nid yw pob BILl yn darparu dadansoddiad o ddyledwyr yn ei adroddiadau ariannol i'r Bwrdd yn rheolaidd.

 

29.                Fodd bynnag, mae'n ofynnol i BILlau gyhoeddi manylion eu dyledwyr fel rhan o'u cyfrifon blynyddol statudol. Mae dyledwyr BILlau yn ôl Cyfrifon Cryno'r GIG ar 31 Mawrth 2013 fel a ganlyn:

 

 

 

Abertawe Bro Morgannwg

Aneurin Bevan

Betsi Cadwaladr

Caerdydd a’r Fro

Cwm Taf

Hywel Dda

Powys

Cyfanswm

 

£000oedd

£000oedd

£000oedd

£000oedd

£000oedd

£000oedd

£000oedd

£000oedd

Dyledwyr nad ydynt yn rhan o’r GIG

115

331

1,683

1,476

754

587

95

5,041

Cyfanswm Dyledwyr y GIG

115

331

1,683

1,476

754

587

95

5,041

Awdurdodau Lleol

1,363

2,704

2,815

1,164

1,937

1,823

373

12,179

Dyledwyr eraill

7,614

10,585

6,940

13,776

3,497

3,863

1,945

48,220

Rhagdaliadau eraill ac incwm cronedig

4,423

3,552

10,080

2,223

1,941

1,325

763

24,307

Cyfanswm y Dyledwyr nad ydynt yn rhan o’r GIG

13,400

16,841

19,835

17,163

7,375

7,011

3,081

84,706

Cyfanswm

13,515

17,172

21,518

18,639

8,129

7,598

3,176

89,747

 

Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys dyledwyr o fewn y GIG yng Nghymru ac arian sy'n ddyledus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ad-dalu rhaglenni a phrosiectau y cytunwyd arnynt, e.e. Menter Gofal Llygaid Cymru.

 

30.                Dyledwyr nad ydynt yn rhan o'r GIG yng Nghymru - symiau sy'n ddyledus gan gyrff nad ydynt yn rhan o'r GIG yng Nghymru ar gyfer darparu gwasanaethau'r GIG yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth, y mae eu telerau yn amrywio ond maent yn daliadau 30 diwrnod fel arfer.

 

31.                Awdurdodau Lleol– symiau sy'n ddyledus gan awdurdodau lleol ar gyfer costau pecynnau gofal, taliadau a ailgodir ar gyfer darparu gwasanaethau a thaliadau a ailgodir ar gyd-fentrau fel Dechrau'r Deg a Cychwyn Cadarn. 

 

32.                Dyledwyr eraill– ymhlith yr eitemau sylweddol mae symiau sy'n ddyledus gan CThEM ar gyfer TAW a adenillwyd, symiau sy'n ddyledus gan Adrannau nad ydynt yn Adrannau Llywodraeth Cymru o dan drefniadau ariannu, a symiau sy'n ddyledus gan Uned Adennill Iawndal yr Adran Gwaith a Phensiynau o dan y Cynllun Adennill Costau Anafiadau.

 

33.                Rhagdaliadau eraill ac incwm cronedig– rhagdaliadau ar gontractau cynnal a chadw ar gyfer cyfarpar yn bennaf.

 

 

Symudiad Arian yn GIG Cymru: Gwasanaethau Trawsffiniol

 

34.                Ym mis Hydref 2009, cafodd marchnad fewnol y GIG ei diddymu yng Nghymru. Yn sgil hynny, cafodd y rhaniad trefniadol rhwng comisiynwyr a darparwyr gofal iechyd ei ddileu a sefydlwyd y saith Bwrdd Iechyd integredig. O ganlyniad, nid oes angen system gymhleth o lifau ariannol rhyng-sefydliadol yng Nghymru fel y system Talu yn ôl Canlyniadau yn Lloegr.

 

35.                Caiff Byrddau Iechyd y mwyafrif o'u harian drwy Ddyraniadau Refeniw Blynyddol Llywodraeth Cymru. O'r dyraniad hwn, mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ariannu gofal iechyd ar gyfer eu poblogaeth breswyl, gan gynnwys gwasanaethau cymunedol, eilaidd ac arbenigol, gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer y boblogaeth sydd wedi'i chofrestru â meddyg teulu, a gwasanaethau fferyllol cymunedol a gwasanaethau deintyddol cyffredinol a ddarperir o fewn eu ffiniau daearyddol.

 

36.                Fel arfer, bydd cleifion yn cael eu trin yn y Bwrdd Iechyd lle maent yn byw neu'r Bwrdd Iechyd maent wedi'u cofrestru ag ef. Mae'r arian a ddarperir ar gyfer y driniaeth hon wedi'i gynnwys yn nyraniad refeniw Byrddau Iechyd, felly nid oes angen unrhyw lif ariannu rhwng sefydliadau ar gyfer y gweithgarwch hwn.

 

37.                Pan gaiff cleifion eu trin mewn sefydliad GIG ar wahân i'r Bwrdd Iechyd lle maent yn byw neu maent wedi cofrestru ag ef, mae angen llif arian rhwng sefydliadau. Ar gyfer cleifion a gaiff eu trin gan un o sefydliadau eraill y GIG yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu ar ba sail y caiff y llif arian ei gytuno rhwng sefydliadau. Caiff y llif hwn ei gytuno'n lleol rhwng y sefydliadau, er bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses cyflafareddu ar gyfer datrys anghydfodau rhwng sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn y sefyllfaoedd prin hynny pan fydd anghydfodau yn codi.

 

38.                Nid oes gan Lywodraeth Cymru gytundeb â gwledydd eraill y DU ar gyfer y trefniadau ariannol sy'n codi pan fydd cleifion o Gymru yn cael triniaeth mewn rhannau eraill o'r DU (ac i'r gwrthwyneb). Telir am y driniaeth a roddir i gleifion o Gymru yn Lloegr gan ddefnyddio'r tariff Talu yn ôl Canlyniadau lle y bo'n gymwys. Telir am y driniaeth a roddir i gleifion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn Lloegr lle nad yw'r tariff yn berthnasol, ar gyfraddau y cytunir arnynt yn lleol. 

 

39.                Mae trefniadau eraill ar waith ar gyfer llifau ariannol yng Nghymru ar gyfer triniaethau arbenigol. Mae pob Bwrdd Iechyd yn gwneud cyfraniad ariannol blynyddol i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf, i dalu am gostau triniaeth arbenigol ar gyfer eu preswylwyr.  Mae'r swm hefyd yn cynnwys cyfraniad i ariannu Gwasanaethau Ambiwlans Brys a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r Pwyllgor wedyn yn ymrwymo i gytundebau ariannol â darparwyr gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaeth Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a darparwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Unwaith eto, nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu ar ba sail y caiff llifau arian eu cytuno rhwng y Pwyllgor a sefydliadau eraill y GIG yng Nghymru, ond mae'r broses gyflafareddu a weithredir ganddo yn ymestyn i'r trefniadau ariannol hyn. Mae'r Pwyllgor yn ymrwymo i'r un cytundebau ar gyfer cleifion a gaiff eu trin y tu allan i Gymru â'r cytundebau ar gyfer Byrddau Iechyd.

 

40.                Mae sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn ystyried opsiynau i gyflwyno ymagwedd fwy rheoledig tuag at lifau ariannol rhyng-sefydliadol yn y GIG yng Nghymru. Byddai'r cynigion sy'n cael eu datblygu yn defnyddio cost safonol yng Nghymru fel sail ar gyfer talu am lifau cleifion nad ydynt yn cael triniaeth arbenigol rhwng Byrddau Iechyd ac i Ymddiriedolaeth Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Gohiriwyd cynlluniau i gyflwyno'r trefniadau hyn yn 2013-14 gan fod angen gwneud gwaith pellach i gadarnhau'r trefniadau rheoliadol, yn ogystal â gwneud gwaith i sicrhau bod y gweithgarwch sy'n ei ategu a llifau gwybodaeth ariannol yn ddigon cadarn i gefnogi system o'r fath.  Er bod y gwaith hwn yn cael ei arwain gan sefydliadau'r GIG, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r broses hefyd.

 

Buddsoddiad Cyfalaf

 

41.                Y gyllideb gyfalaf gyffredinol ar gyfer Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2012-13, o ganlyniad i drosglwyddiadau yn ystod Cyllideb Ategol mis Chwefror, yw £228 miliwn.  Mae'r swm hwnnw'n cynnwys cyllideb o £214 miliwn ar gyfer Rhaglen Gyfalaf Cymru Gyfan y GIG.

 

42.                Fel sy'n arferol ar gyfer rhaglenni cyfalaf o'r maint a'r cymhlethdod hwn, caiff llithriant ar gynlluniau unigol y GIG a'r rhaglenni grant cyfalaf eraill a gefnogir gan y Prif Grŵp Gwariant (gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, moderneiddio gwasanaethau fferyllol a ffliw pandemig) ei ailgyfeirio i brosiectau a gymeradwywyd er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o'r arian.  Yr alldro ar gyfer 2012-13 yn erbyn cyllideb cyfalaf cyffredinol o £228 miliwn, yn seiliedig ar ffigurau archwiliedig o gyfrifon cyrff y GIG, yw tanwariant o £0.559 miliwn.  Mae hyn yn cyfateb i 0.2% o'r gyllideb sydd ar gael.

 

43.                Mae'r broses o werthuso effaith yr ad-drefnu ar ofynion cyfalaf yn broses ailadroddus a pharhaus ac mae'n adlewyrchu'r ffaith bod sefydliadau'r GIG ar gamau gwahanol o'u prosesau ymgysylltu ac ymgynghori. 

 

44.                Mae'r flaenraglen yn cael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn gydnaws â gweledigaeth Law yn Llaw at Iechyd a'r cynlluniau i newid gwasanaethau.  Mae'n cynnwys cynlluniau sy'n deillio o'r ymgynghoriadau ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. 

 

45.                Mae'r pum sefydliad yn Rhaglen De Cymru wrthi'n cynnal ymarferion ymgynghori ac ni fyddai'n briodol darogan canlyniadau'r ymarferion hyn.  Fodd bynnag, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i symud ymlaen pan gyhoeddir yr ymatebion i'r ymgynghoriadau.

 

46.                Mae fforddiadwyedd y flaenraglenyn cael ei ystyried ac rydym yn cydweithio â sefydliadau'r GIG i herio eu tybiaethau o ran cost a'u hamserlenni cyflawni.  Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gyda thîm y Gweinidog Cyllid i ystyried ffynonellau ariannu amgen a allai sbarduno'r agenda newid gwasanaethau.

 

Y Gronfa Technoleg Iechyd

 

47.                Mae'r Gronfa Technoleg Iechyd wedi'i sefydlu i ddarparu £25 miliwn o arian cyfalaf dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer technoleg newydd i gefnogi'r broses o drawsnewid y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu drwy gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a thriniaethau newydd, gan helpu i gyflawni'r weledigaeth a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd, sef gwasanaethau diogel a chynaliadwy o safon dda a gwell manteision i gleifion.

 

48.                Derbyniwyd ceisiadau gan gyrff y GIG ac maent yn cael eu hystyried gan swyddogion ar hyn o bryd. Mae pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd canlynol a dim ond os yw’n bodloni’r meini prawf hyn y caiff ei ystyried:

 

 

49.                Ni fwriedir i’r Gronfa wneud y canlynol:

 

 

Caiff ceisiadau eu hasesu gan ddefnyddio’r mesurau ansawdd a nodir yng Nghynllun Gwella Ansawdd Gofal Iechyd Llywodraeth Cymru, sef profiad y claf, effeithiolrwydd, diogelwch, amseroldeb ac effeithlonrwydd.

 

Rhagwelwn y caiff cyhoeddiad ei wneud erbyn diwedd mis Gorffennaf 2013.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyllidebau a Ddiogelir a Gofal Cartref

 

50.                Mae'r arian ar gyfer elfen gwasanaethau cymdeithasol y Setliad wedi'i ddiogelu i ryw raddau ar gyfer y cyfnod 2011-12 i 2013-14.  Mae'r diogelwch yn golygu y bydd y cynnydd yn yr arian a ddarperir 1% yn uwch na'r cynnydd cyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. 

 

51.                Mae'r tabl canlynol yn dangos beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y cynnydd blynyddol yn yr elfen gwasanaethau cymdeithasol tybiannol o'r Grant Cynnal Refeniw.

 

 

 

 

 

£ miloedd

 

2010-11

2011-12

2012-13

2013-14

Cynnydd yn Nghyllideb Cymru

 

-1.33%

0.58%

1.08%

Cynnydd mewn Diogelwch Gofal Cymdeithasol

 

-0.33%

1.58%

2.08%

Grant Cynnal Refeniw gyda diogelwch

1,007,098

1,003,775

1,019,634

1,040,843

Grant Cynnal Refeniw heb ddiogelwch

1,007,098

993,704

999,467

1,010,261

 

Gwahaniaeth rhwng 2010-11 a 2013-14

 

33,745

 

Arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol o ganlyniad i ddiogelwch

 

60,819

 

 

52.                Nid yw'r setliad llywodraeth leol wedi'i neilltuo a chyfrifoldeb Awdurdodau Lleol yw penderfynu ar flaenoriaethau gwario. 

 

53.                Nid yw'n bosibl neilltuo unrhyw elfen o'r setliad ond mae'n bosibl nodi'n glir ble mae arian wedi'i ychwanegu at y setliad at ddiben penodol ac yna i weithio gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei gyfeirio yn unol â blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru. 

 

54.                O ran gofal cymdeithasol, mae hyn yn golygu, erbyn 2013-14, £34 miliwn ychwanegol y flwyddyn o gymharu â setliad llywodraeth leol 2010-11.  Y diogelwch a ddarparwyd yn 2013-14 yw'r setliad olaf y bwriedir iddo gynnwys diogelwch o 1% ar gyfer gofal cymdeithasol.  Nid oes unrhyw ymrwymiad ar hyn o bryd i barhau i ddarparu'r diogelwch hwn y tu hwnt i 2013-14.

 

55.                Casglwyd y data diweddaraf o ffurflenni Alldro Refeniw 2011-12.  Felly, nid yw'n bosibl asesu'n gywir sut y mae'r diogelwch wedi effeithio ar wariant y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, sef 2011-12. Bydd gwybodaeth ar gyfer 2012-13 ar gael ym mis Hydref.

56.                Yn seiliedig ar ddata alldro 2011-12, mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

 

57.                Mae'r dystiolaeth yn dangos bod Awdurdodau Lleol, ar y cyfan, wedi diogelu gwariant ar wasanaethau cymdeithasol. Ar lefel awdurdodau unigol, mae'r darlun yn fwy amrywiol.

 

58.                O ystyried hyn a'r ffaith bod y data wedi'i gyfyngu i'r flwyddyn gyntaf o ddiogelwch, ysgrifennodd y Gweinidog Llywodraeth Leol at Awdurdodau Lleol yn ddiweddar i'w hatgoffa o'r ymrwymiad ac i geisio cael gwybodaeth am eu cyflawniadau.    Mae'r ymatebion hyn yn dod i law ar hyn o bryd a chânt eu coladu er mwyn rhoi briff i'r Gweinidogion perthnasol.

 

59.                Mae awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd mewn incwm a ildiwyd sy'n deillio o'r uchafswm o £50 yr wythnos o £10.1 miliwn y flwyddyn, sef y swm a amcangyfrifwyd ganddynt yn flaenorol, i £15.9 miliwn y flwyddyn. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau, roedd hyn o ganlyniad i gynnydd mewn defnyddwyr gwasanaeth, chwyddiant a newidiadau i Fudd-daliadau Lles. Mae 15 o awdurdodau yn cyfrif am £1.1 miliwn y flwyddyn o'r cynnydd hwn. Fodd bynnag, o ran y saith awdurdod nad oeddent wedi pennu uchafswm tâl yn eu polisi codi tâl lleol, cafodd y ffactorau hyn eu dwysáu    a, gyda gilydd, roeddent yn gyfrifol am £4.8 miliwn y flwyddyn o'r cynnydd hwn. Er ei bod yn amlwg bod incwm a ildiwyd yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau megis cynnydd mewn galw, nid yw hynny'n wir bob amser.   Er enghraifft, nododd rhai awdurdodau gynnydd cymharol fawr yn nifer y defnyddwyr gwasanaeth heb fawr ddim effaith ar lefel yr incwm a ildiwyd ganddynt.  O ganlyniad, mae lefel yr incwm a gaiff ei ildio ar brofiadau awdurdodau hefyd yn cael ei effeithio'n fawr gan y polisi codi tâl lleol y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei weithredu. 

 

60.                O ganlyniad, rydym yn darparu £3.2 miliwn ychwanegol y flwyddyn o 2013-14 i roi ad-daliad pellach i awdurdodau lleol am yr incwm a ildiwyd ganddynt. Mae hwn yn gyfraniad sylweddol i bontio'r bwlch rhwng yr amcangyfrif gwreiddiol a ddarparwyd a'r lefel wirioneddol a adroddir bellach. Ystyriwn fod hwn yn ddyraniad teg o gymorth ychwanegol o gofio, mewn rhai achosion, bod polisi codi tâl lleol awdurdod wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at y cynnydd yn yr incwm a ildiwyd ganddo.

 

61.                Mae'r broses fonitro wedi nodi cynnydd yn nifer y rheini sy'n derbyn gwasanaethau y codwyd tâl ar eu cyfer. O'r 31,132 o ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru a dderbyniodd y gwasanaethau hyn yn 2011-12, roedd 7,858 yn derbyn gwasanaethau am y tro cyntaf. Yn flaenorol, byddai'r unigolion hyn wedi talu am wasanaethau'n breifat, wedi derbyn cymorth gan deulu neu ffrindiau, neu wedi mynd heb ofal yn gyfan gwbl. Mae'r sicrwydd a roddwyd gan yr uchafswm tâl wythnosol yn golygu y gall yr unigolion hyn geisio gofal a chymorth gan eu hawdurdod lleol nawr, gan wybod mai'r uchafswm y byddai'n rhaid iddynt ei dalu amdano ar hyn o bryd fyddai £50 yr wythnos.

 

62.                Fodd bynnag, mae angen sicrhau bod y fenter hon yn parhau i fod yn gynaliadwy ac na fydd yn mynd yn anghynaladwy yn sgil y pwysau ariannol ar lywodraeth leol. Pennwyd yr uchafswm o £50 yr wythnos yn 2011 ac mae bellach wedi bod yn weithredol ers dros ddwy flynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, gwelwyd cynnydd yng nghost gwasanaethau a newidiadau i Fudd-daliadau Lles a swm y budd-daliadau a roddir. O ganlyniad, bwriadwn ddiwygio lefel yr uchafswm tâl o fis Ebrill 2014 er mwyn ystyried y newidiadau hyn. Rydym hefyd yn bwriadu rhoi ystyriaeth ehangach i effaith yr uchafswm tâl, a'i lefel, ar gyfer mis Ebrill 2015. Byddwn yn ymgynghori â chynrychiolwyr llywodraeth leol a defnyddwyr gwasanaeth fel ei gilydd ynghylch ein cynlluniau unwaith y byddwn wedi cadarnhau manylion yr hyn a gynigir gennym.